CROESO !!
Gwybodaeth Amdanom
Rydym yn cadw gwenyn ac rydym bob amser yn brysur ar ein hanner hectar yn abrofi gyda byw yn gynhaladwy a bod yn hunangynhaliol.
Mae gan Lisa Mundle gefndir mewn gwyddoniaeth amgylcheddol ac 20 mlynedd o brofiad yn tyfu bwyd organig. Mae hi wedi addysgu plant ac oedolion sut i dyfu eu llysiau eu hunain, yn arbennig y mathau o lysiau sy’n tyfu’n hawdd yn hinsawdd Gogledd Cymru.
Mae Jonathan Garratt yn gweithio rhan-amser fel arolygwr gwenyn. Mae o wedi bod yn helpu gofalu am wenyn ers iddo fod yn blentyn. Mae o’n gofalu am ein gwenyn yma ac mae o’n cynnal cyrsiau rhagarweiniol cadw gwenyn. Mae o hefyd yn helpu gyda chymdeithasau gwenyn lleol.
Mae Lisa a Jonathan wedi sefydlu prosiectiau tyfu llysiau mewn ysgolion cynradd lleol ac maen nwh'n croesawu pobl i aros a dysgu gyda nhw (WWOOF).